Cefndir CAT Cymru

Mae CAT Cymru (sydd hefyd yn masnachu dan yr enw South Wales CAT Training Ltd) wedi bod yn hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn Therapi Dadansoddol Gwybyddol ers 2016. Lleolwyd y cwrs yng Nghasnewydd ers 2019. Ein nod yw darparu hyfforddiant uchel ei ansawdd, sy’n galluogi hyfforddeion i fod yn gymwys wrth ddefnyddio Therapi Dadansoddol Gwybyddol gyda chleientiaid unigol a thrwy ddefnyddio syniadau cysylltiedig i gefnogi timau, deall deinameg timau ac i weithio’n anuniongyrchol gyda chleientiaid. Yn sgil cwblhau holl elfennau’r cwrs, bydd hyfforddeion yn gallu gwneud cais am achrediad ACAT (Association for Cognitive Analytic Therapy).