Clare Fisher

Cychwynnodd fy nhaith TDG trwy gyflwyniad i’r model pan roeddwn yn hyfforddi ym maes seicoleg glinigol, a ches i fy nharo ar unwaith pa mor ddefnyddiol y byddai ar gyfer gwaith y GIG. Roeddwn wrth fy modd fod y model yn cynnig strwythur imi er mwyn deall y ffordd y mae cysylltiadau neu drawma rhywun yn y gorffennol yn effeithio arnynt nawr ac wedyn mae’r mewnwelediad yma’n cynnig posibilrwydd o wneud newid arwyddocaol. Dros y blynyddoedd nesaf, llwyddais i gael therapi TDG fy hunan a chwblhau hyfforddiant seicotherapydd a goruchwyliwr ym maes TDG. Yn 2016, roeddwn yn rhan o’r tîm craidd a sefydlodd y cwrs TDG achrededig cyntaf yng Nghymru. Rwyf wedi gweithio ym maes iechyd meddwl oedolion ers nifer o flynyddoedd yn y Cymoedd ac rwyf yn mwynhau defnyddio model TDG yn uniongyrchol, yn anuniongyrchol ac wrth oruchwylio unigolion eraill sy’n gweithio ar draws ystod o arbenigeddau. Yn ystod blynyddoedd diweddar, roeddwn wrth fy modd yn gweld cymuned TDG De Cymru’n ehangu, ac roeddwn yn aelod o’r tîm a drefnodd cynhadledd genedlaethol ACAT yn Abertawe yn 2024.