Rachel Akande

Photo of Rachel Akande smiling wearing a grey/blue top

Rwyf wedi bod yn angerddol am TDG ers 2003 pan roeddwn yn hyfforddi fel Seicolegydd Clinigol. Roeddwn yn cael trafferth deall yr hyn yr oedd cleient yn dweud wrthyf, felly dyma fi’n gafael mewn darn o bapur a phin a dechrau nodi’r patrwm yr oedd yn ei ddisgrifio. A dyna fy map cyntaf! Yr hyn oedd yn golygu cymaint imi bryd hynny a nawr, yw sut y gall TDG wneud theori seicolegol cymhleth mor hygyrch i’r unigolion sy’n dod am driniaeth a’r sawl sy’n darparu’r cymorth. Rwyf wedi ei ddefnyddio mewn rolau ar draws yr ystod oedran, yn amrywio o bobl ifanc i oedolion hŷn, o leoliadau gofal sylfaenol i gleifion mewnol, ac mewn ymarfer preifat hefyd.  

Rwyf yn Ymarferydd TDG ac yn oruchwyliwr achrededig. Ymhlith fy ymrwymiad i helpu eraill ddatblygu eu gwybodaeth am a’u defnydd o TDG mae rhedeg nifer fawr o sesiynau hanner diwrnod ar thema” Cyflwyniad i TDG” a chyrsiau deuddydd ar sgiliau pwrpasol ar gyfer sefydliadau amrywiol. Hefyd rwyf yn defnyddio TDG fel arf ymgynghori ar gyfer timau gofal y GIG, mewn sesiynau goruchwylio a myfyriol er mwyn i glinigwyr gael fframwaith i ystyried eu cysylltiadau therapiwtig. Rwyf wedi bod yn gysylltiedig â chwrs CAT CYMRU ers y cam cynllunio. Mae hyn wedi golygu dysgu’r 2 garfan ddiweddaraf, marcio gwaith cwrs a chymryd rhan yng nghynhadledd hyfforddwyr a goruchwylwyr ACAT.