Susie Black

Photo of Susie wearing a red flowery top

Mae fy nghefndir ym maes Seicoleg Glinigol ac enillais gymhwyster D.Clin.Psy o brifysgol Sheffield yn 2000. Roedd fy lleoliad TDG cyntaf yn ystod fy hyfforddiant clinigol, a chefais fy nenu ar unwaith i ba mor fuddiol oedd yr arfer o ran gwneud synnwyr o anawsterau pobl mewn ffordd oedd yn gefnogol iddyn nhw heb roi unrhyw fai arnynt. Rwyf yn gweithio gyda gwasanaeth arbenigol sy’n canolbwyntio ar anhwylderau bwyta yn Abertawe yn y GIG ar bedwar o’m dyddiau gwaith, ac ar y diwrnod arall, rwyf yn gweithio gyda CAT Cymru. Yn y gorffennol rwyf wedi treulio 8 mlynedd yn gweithio ym maes oncoleg yn y 3ydd sector, a dychwelais i weithio yn y GIG ac iechyd meddwl oedolion yn 2024. Defnydd o fapiau generig i hwyluso dealltwriaeth gysylltiadol a seicolegol ymhlith staff sy’n gweithio ym maes therapi a thu allan i therapi yw sylfaen fy niddordebau mewn TDG. Gall hyn helpu hyrwyddo hanfod buddiol TDG a meddwl cysylltiadol heb gymhlethdod hyfforddi mewn therapi.

Rwyf yn therapydd, goruchwyliwr a hyfforddwr ym maes TDG. Rwyf wedi cyfrannu at redeg CAT Cymru ers ei sefydlu a derbyn yr hyfforddeion cyntaf yn 2016. Rwyf yn un o oruchwylwyr y cwrs, ac yn cynnig tiwtorialau i hyfforddeion, yn ogystal â marcio ar ran CAT Cymru a nifer o gyrsiau TDG eraill ar lefelau ymarferydd a goruchwyliwr. Yn ogystal, rwyf wedi darparu addysgu a hyfforddiant ym maes TDG yn y DU a thramor. Rwyf yn cyfrannu’n aml at gynhadledd genedlaethol ACAT ac roeddwn yn rhan o’r tîm a drefnodd cynhadledd 2024.

Rwyf wedi bod yn un o ymddiriedolwyr ACAT ers Gorffennaf 2024.