Cwrs dwy flynedd yw’r hyfforddiant Ymarferydd TDG sy’n arwain at achrediad fel ymarferydd / therapydd TDG gan ACAT. Mae’r Cwrs Ymarferydd / Therapydd Therapi Dadansoddol Gwybyddol CAT Cymru yn cael ei redeg gan oruchwylwyr TDG achrededig, seicotherapyddion ac ymarferwyr. Caiff ei achredu gan y Gymdeithas Therapi Dadansoddol Gwybyddol (ACAT).

Bellach mae ceisiadau ar gyfer carfan 2025 ar agor. Byddwn yn derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndir Nyrsio Iechyd Meddwl, Seicoleg Glinigol, Seicoleg Cwnsela, Seiciatryddol, Seicotherapi, Gwaith Cymdeithasol, neu Therapi Galwedigaethol. Byddwn hefyd yn ystyried gweithwyr proffesiynol eraill gyda chymwysterau addas. Fel arfer, rhaid i ymgeiswyr meddu ar gymwysterau blaenorol mewn proffesiwn craidd, ac o leiaf 2 flynedd o brofiad ar ôl cymhwyso gan gynnwys profiad o therapi un-i-un. Gallwn dderbyn ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar broffesiwn craidd os maent yn gallu cyflwyno portffolio o dystiolaeth o brofiad sy’n cynnwys cymorth unigol sylweddol. Dylai ymgeiswyr sydd o’r farn eu bod yn bodloni’r meini prawf hyn gysylltu â’r cwrs cyf cyflwyno cais.
Therapi seicolegol penodol ei hyd, pwrpasol yw TDG sy’n addas ar gyfer ystod eang o gyflyrau ac mae’n cael ei ddatblygu gan ystyried anghenion cleientiaid y GIG. Fel arfer bydd cleientiaid yn cael eu gweld am gyfnod rhwng 16 a 24 wythnos, unwaith yr wythnos, am awr. Mae TDG yn cynnig ffordd gydweithredol o weithio gyda’r ffyrdd anodd y mae unigolyn yn meddwl, teimlo ac yn ymddwyn, trwy ystyried digwyddiadau a chysylltiadau (yn aml o gyfnod plentyndod) sydd wrth wraidd eu profiadau cyfredol ac sy’n cynnal eu problemau. Caiff TDG ei deilwra i anghenion unigol yr unigolyn dan sylw, ac i’w nodau dichonadwy unigol. Therapi Trawsdiagnostig yw. Therapi perthynol yw a’i nod yw galluogi adnabod a hwyluso newid, sy’n rhoi arfau a strategaethau i gleientiaid allu cynnal eu cynnydd. Am ragor o wybodaeth ar TDG, gweler gwefan y Gymdeithas Therapi Dadansoddol Gwybyddol (ACAT – www.acat.org.uk) www.acat.org.uk)
Cwrs dwy flynedd yw’r Hyfforddiant Ymarferydd TDG sy’n cynnwys yr elfennau canlynol:
- Dyddiau Hyfforddi: 12 diwrnod y flwyddyn. Cynhelir y cwrs yn Nhŷ Beechwood, Parc Beechwood, Heol Christchurch, Casnewydd NP19 8AJ
- Ymarfer dan oruchwyliaeth: Byddwch yn gweld wyth o achosion ar gyfer TDG dan oruchwyliaeth wythnosol gyda goruchwyliwr TDG achrededig. Fel arfer bydd yr achosion hyn yn para am 16 wythnos. Os nad yw eich gwaith arferol ym maes iechyd meddwl oedolion, bydd gofyn ichi weld rhai achosion o leoliad iechyd meddwl oedolion. Nid yw ffioedd goruchwyliaeth yn cael eu cynnwys fel rhan o ffi’r cwrs.
- Gofynion academaidd: Dros y ddwy flynedd bydd angen cyflwyno dau adroddiad achos a dau draethawd er mwyn dangos eich dealltwriaeth o’r model a’i ddefnydd. Bydd gennych diwtor ar gyfer y cwrs, a gallwch drafod yr agwedd hon ar y cwrs gyda’ch tiwtor.
- Therapi Personol: Bydd gofyn ichi gyflawni therapi TDG 16 wythnos gydag Ymarferydd neu Seicotherapydd TDG achrededig. Ni chaiff yr elfen hon ei hasesu mewn unrhyw ffordd, ond mae’n un o ofynion y cwrs, oherwydd ystyrir ei fod yn bwysig iawn eich bod yn gallu myfyrio ar eich profiadau eich hunan a sut maent yn effeithio arnoch chi fel therapydd. Noder: nid yw’r elfen hon o’r cwrs yn cael ei hariannu, a bydd gofyn ichi dalu amdano eich hunan.
Mae tri aelod o grŵp craidd y cwrs, fydd yn cyflwyno’r hyfforddiant yng Nghasnewydd.
Clare Fisher, Cyfarwyddwr y Cwrs (D.Clin.Psy, Seicotherapydd CAT, Goruchwyliwr CAT)
Rachel Akande, Cyd-hyfforddwr (D.Clin.Psy, Ymarferydd CAT, Goruchwyliwr CAT)
Susie Black, Cyd-hyfforddwr a Gweinyddwr y Cwrs (D.Clin.Psy, Ymarferydd CAT, Goruchwyliwr CAT).
Yn ogystal â’r Grŵp craidd, mae gennym grŵp ehangach o unigolion sy’n marcio, goruchwylwyr a hyfforddwyr gwadd achlysurol sydd hefyd yn cyfrannu at redeg y cwrs.
Croeso ichi gysylltu â susie@catcymru.uk os hoffech ymgeisio.